Maen Prawf 2.2

Priodweddau a sut mae defnyddio deunyddiau solet

 

Mae deunyddiau solet yn sylfaen i nifer fawr o gydrannau ac offer yn y diwydiant plymio a gwresogi. Mae dealltwriaeth o’u priodweddau ffisegol fel cryfder, hyblygrwydd, dargludedd gwres neu drydan, a’u hymwrthedd i gyrydiad yn hanfodol wrth ddewis y deunydd priodol ar gyfer swyddogaeth benodol. Mae dewis anghywir yn gallu achosi methiant system, tra bod dewis cywir yn gallu gwella perfformiad, gwydnwch ac effeithlonrwydd.