Maen Prawf 2.3

Y rhesymau pam fod deunyddiau solet yn dirywio

 

Mae deunyddiau solet fel metelau a phlastigau yn hanfodol i systemau plymio a gwresogi, ond dros amser, maent yn gallu dirywio, hynny yw, colli eu priodweddau strwythurol neu gemegol oherwydd amodau amgylcheddol neu gemegol. Mae dirywiad yn gallu arwain at fethiant system, gollyngiadau, costau cynnal uchel ac mewn rhai achosion, perygl i ddiogelwch. Mae deall y prif achosion o ddirywiad yn galluogi gweithwyr i osgoi problemau drwy ddewis deunyddiau priodol a chymryd camau ataliol.