Dŵr meddal  

Dŵr heb lawer o ionau calsiwm a magnesiwm. Mae’n tueddu i ffurfio mwy o ewyn gyda sebon ac yn achosi llai o sialc ar offer fel y tegell. 

Dŵr caled dros dro  

Mae’r math yma’n cynnwys cyfansoddion sy’n gallu cael eu tynnu trwy ferwi’r dŵr. Gall achosi creu gronynnau sialc (limescale) mewn boeleri a phibellau. 

Dŵr caled parhaol  

Mae dŵr caled parhaol yn cynnwys cyfansoddion nad ydynt yn cael eu tynnu wrth ferwi. Mae angen triniaeth cemegol, fel meddalwr dŵr, i’w dynnu. Gall y dŵr yma arwain at gronni sialc mewn systemau gwresogi a lleihau effeithlonrwydd. 

Bbypnda, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons