Maen Prawf 2.1

Dwyseddau cymharol deunyddiau cyffredin

 

Mae dwysedd cymharol (a elwir weithiau’n ddwysedd penodol neu ‘specific gravity’) yn gymhareb rhwng dwysedd sylwedd a dwysedd sylwedd safonol o dan amodau penodol. Nid yw’n cynnwys unedau mesur gan ei fod yn gyfran. Mae’r dull hwn o gymharu’n ddefnyddiol iawn mewn gwyddoniaeth gymhwysol ac yn arbennig o berthnasol yn y diwydiant plymio a gwresogi, lle mae angen deall a rhagweld ymddygiad hylifau a nwyon mewn systemau. 

Ar gyfer hylifau a solidau, y sylwedd safonol a ddefnyddir fel cymhariaeth fel arfer yw dŵr distyll ar dymheredd o 4°C, sef y pwynt lle mae gan ddŵr y dwysedd mwyaf (tua 1000 kg/m³). Ar gyfer nwyon, defnyddir aer fel y sylwedd safonol, o dan yr un tymheredd a gwasgedd â’r nwy sy’n cael ei fesur.