Metelau fferrus 

Metelau fferrus yw metelau sy’n cynnwys haearn, ac maent yn dueddol o fod yn gryf ond yn agored i gyrydiad os nad ydynt wedi’u trin neu’u gorchuddio’n briodol. Dur yw’r enghraifft fwyaf cyffredin, ac fe’i ddefnyddir mewn rhannau strwythurol yn ogystal ac mewn pibellau a chydrannau fel rheiddiaduron mewn systemau plymio a gwresogi. Mewn rhai systemau gwresogi, defnyddir dur gwrthstaen lle mae angen cyfuno cryfder â gwrthiant cyrydiad, er nad yw dur gwrthstaen yn fetel fferrus yn ei ffurf orau.