Metelau pur 

Metelau pur yw’r rhai nad ydynt wedi’u cymysgu ag elfennau eraill. Enghraifft nodweddiadol yw copr, sy’n cael ei ddefnyddio’n eang mewn systemau plymio oherwydd ei ddargludedd thermol uchel, ei ymwrthedd i gyrydiad, a’i hyblygrwydd cymedrol. Mae copr hefyd yn hawdd ei ffurfio ac yn gydnaws ag amrywiaeth eang o gydrannau a chysylltiadau. Mewn systemau dŵr poeth domestig, ceir defnydd helaeth o bibellau copr oherwydd ei allu i wrthsefyll tymereddau uchel a phwysedd systemau wedi eu selio (sealed systems).