Nwy naturiol
Mae nwy naturiol yn danwydd ffosil sy’n cynnwys yn bennaf methan (CH₄). Caiff ei ddefnyddio’n eang mewn systemau gwresogi domestig, fel boeleri. Mae’n cael ei gyflenwi drwy rwydwaith pibellau o dan wasgedd cymharol isel.
LPG (Liquefied Petroleum Gas)
Mae LPG yn gymysgedd o bropan (propane) a bwtan (butane), ac mae’n cael ei storio fel hylif mewn cynwysyddion dan wasgedd. Caiff ei ddefnyddio yn aml mewn ardaloedd gwledig lle nad oes cysylltiad â nwy naturiol. Pan mae’n cael ei ryddhau, mae’n anweddu’n gyflym i ffurfio nwy sy’n llosgi’n hawdd.
Aer
Defnyddir aer cywasgedig mewn amrywiaeth o gymwysiadau plymio a pheirianneg, gan gynnwys offer niwmatig (pneumatic). Mae’n cynnwys cymysgedd o nwyon, yn bennaf nitrogen ac ocsigen. Mae newid tymheredd neu wasgedd yn effeithio ar ei gyfaint a’i ddwysedd.