Priodweddau ffisegol: Gwasgedd, cyfaint a tymheredd 

Mae gwasgedd yn fesur o faint o rym mae nwy yn ei roi ar arwynebedd penodol. Wrth gynhesu nwy mewn cynwysyddion caeedig, mae’r gwasgedd fel arfer yn cynyddu gan fod y moleciwlau’n symud yn fwy egniol. 

Mae cyfaint yn cyfeirio at faint o le mae’r nwy’n ei feddiannu. Pan fydd gwasgedd yn cynyddu (ac os yw tymheredd yn aros yn gyson), mae cyfaint nwy yn lleihau. Mae hyn yn ddibynnol ar berthynas ffisegol sy’n cael ei esbonio gan ddeddfau gwyddonol. 

Deddf Boyle 

Mae Deddf Boyle yn nodi bod cyfaint nwy yn lleihau wrth i’r gwasgedd gynyddu, cyhyd â bod y tymheredd yn aros yn gyson. Hynny yw, maent mewn cymhareb gwrthdro. Mae’r egwyddor hon yn berthnasol wrth ddylunio systemau nwy sydd angen gweithredu’n ddiogel dan wahanol lefelau o bwysedd. 

Deddf Charles 

Mae Deddf Charles yn nodi bod cyfaint nwy yn cynyddu wrth i’r tymheredd gynyddu, os yw’r gwasgedd yn cael ei gadw’n gyson. Mae hyn yn egluro pam fod nwyon yn ehangu wrth gynhesu, ac yn rywbeth i’w ystyried wrth ddefnyddio LPG neu nwyon eraill mewn offer gwresogi.