Arwynebedd 

Un enghraifft gyffredin yw arwynebedd, sy’n cael ei fesur mewn metrau sgwâr (m²). Daw hyn o luosi dau hyd (hyd × lled), ac fe’i defnyddir i gyfrifo arwynebedd waliau, lloriau neu doeau sy’n gysylltiedig â dosbarthiad dŵr neu wres. Er enghraifft, gall plymiwr gyfrifo arwynebedd waliau er mwyn penderfynu ar hyd pibell angenrheidiol neu gyfrifo’r lle sydd ar gael i osod rheiddiaduron neu offer cysylltiedig. Enghraifft arall sy’n fwy amlwg mewn gwaith domestig modern yw mesur arwynebedd llawr ar gyfer gosod system wresogi tanlawr (underfloor heating).