Cyflymder 

Mae cyflymder, sy’n cael ei fesur mewn metrau yr eiliad (m/s), yn uned arall sy’n tarddu o uned sylfaenol hyd a’r uned amser. Mae’n cael ei ddefnyddio i fesur pa mor gyflym y mae hylif neu nwy yn llifo drwy system. Er enghraifft, wrth ddylunio system bibellau ar gyfer dŵr poeth neu LPG, mae angen gwybodaeth fanwl am gyflymder llif er mwyn sicrhau nad yw’r llif yn rhy gyflym, gan achosi sŵn neu niwed i’r system, nac yn rhy araf, gan leihau effeithlonrwydd y system.