Dwysedd 

Uned bwysig arall yw dwysedd, sy’n cael ei fesur mewn cilogramau y metr ciwbig (kg/m³). Daw’r uned hon o rannu màs (kg) â chyfaint (m³), ac mae’n fesur o faint o fàs sydd mewn cyfaint penodol o sylwedd. Mewn plymio a gwresogi, mae gwybodaeth am ddwysedd yn hanfodol wrth gyfrifo faint o egni sydd ei angen i wresogi dŵr neu hylif arall. Er enghraifft, bydd dealltwriaeth o ddwysedd dŵr (tua 1000 kg/m³) yn galluogi cyfrifiadau cywir o egni gwres a phŵer mewn systemau gwresogi.