Maen Prawf 1.3
Defnyddio tablau trosi ar gyfer unedau nad ydynt yn rhai SI
Er bod y diwydiant plymio a gwresogi yn seiliedig ar y System Ryngwladol o Unedau (SI), mae llawer o safleoedd, dogfennau technegol ac offer yn parhau i ddefnyddio unedau mesur nad ydynt yn rhai SI, fel y fodfedd (inch), troedfedd (foot), galwyn (gallon) a modfedd sgwâr (square inch). Mae hyn yn arbennig o wir wrth weithio gyda hen systemau, wrth ddarllen llenyddiaeth gan weithgynhyrchwyr rhyngwladol, neu wrth gyfathrebu gyda chleientiaid sy’n defnyddio’r system imperialaidd. O ganlyniad, mae’n hanfodol i weithwyr y diwydiant fedru defnyddio tablau trosi yn gywir i drosi mesuriadau rhwng y ddwy system.
Mae tabl trosi yn set o gymarebau safonol sy’n dangos sut mae unedau mesur yn cyfateb i’w gilydd rhwng gwahanol systemau.
Er enghraifft: 1 modfedd (inch) = 25.4 milimetr (mm)
Gall y wybodaeth hon gael ei ddefnyddio wrth addasu cynllun i osod pibell neu gydran benodol.
Yn ymarferol, gall hyn olygu trosi maint tap a nodwyd fel “½ inch BSP” i fesur metrig er mwyn sicrhau fod y ffitio cywir yn cael ei ddewis.