Maen Prawf 1.1

Unedau mesur (SI) sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol

 

Mae’r System Ryngwladol o Unedau (Système International d’Unités neu SI) yn system safonol fyd-eang o fesur sy’n cael ei defnyddio ym mron pob maes gwyddonol a thechnegol, gan gynnwys y diwydiant plymio a gwresogi. Mae’r system yn seiliedig ar unedau sylfaenol y gellir eu cyfuno i greu unedau deilliadol sy’n mesur meintiau mwy cymhleth fel arwynebedd, cyfaint neu gyflymder. Mae dealltwriaeth o’r unedau hyn yn hanfodol ar gyfer gosod a chynnal systemau yn gywir ac yn effeithlon.