Cerrynt Uniongyrchol (DC) a Cherrynt Eiledol (AC) 

Mae dau fath o gerrynt trydanol: 

  • Cerrynt Uniongyrchol (DC) – llif trydan sy’n symud mewn un cyfeiriad yn unig. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn batris, ffônau symudol, a systemau solar.  
  • Cerrynt Eiledol (AC) – llif trydan sy’n newid cyfeiriad dro ar ôl tro. Dyma’r math o drydan sy’n dod i’n cartrefi trwy’r prif gyflenwad (230V). Mae’n addas ar gyfer y mwyafrif o offer domestig fel peiriannau golchi, boeleri, ac offer trydanol eraill.