Maen Prawf 6.3

Cyfrifiadau trydanol syml

 

I weithio’n ddiogel gyda thrydan, mae’n bwysig deall rhai egwyddorion sylfaenol ynglŷn â foltedd(V) , cerrynt(I) a gwrthiant (R). 

Mae Deddf Ohm yn egluro’r berthynas rhwng y tri pheth hyn. Os yw’r foltedd a’r gwrthiant yn cael eu hadnabod, gellir cyfrifo’r cerrynt drwy rannu’r foltedd â’r gwrthiant.  

 

Enghraifft 

Er enghraifft, os yw’r foltedd yn 230 folt ac mae’r gwrthiant yn 17.7 ohm, mae’r cerrynt yn 13 amp.  

Dyma faint o gerrynt fydd yn llifo drwy ddyfais tŷ safonol fel popty neu set deledu, ac mae’n cyd-fynd â ffiws domestig safonol o 13A.