Dargludyddion ac ynysyddion 

Nid yw pob deunydd yn gadael i drydan lifo trwyddo’n rhwydd.  

Dargludyddion yw deunyddiau fel copr ac alwminiwm sy’n gadael electronau lifo’n hawdd.  

Ynysyddion yw deunyddiau fel plastig neu rwber sy’n gwrthsefyll llif trydan ac felly’n cael eu defnyddio i orchuddio gwifrau er mwyn diogelwch. 

Mae’r term ymwrthedd (resistance) yn disgrifio faint mae deunydd yn gwrthsefyll llif trydan. Mae’n cael ei fesur mewn ohmau (Ω). Os oes gan wifren lawer o ymwrthedd, bydd yn arafu’r llif trydanol. Gall hyn achosi i’r weiren gynhesu, sydd yn rhan o’r egwyddor sy’n cael ei defnyddio mewn gwresogyddion trydanol.