Maen Prawf 6.2
Pwrpas a defnydd unedau mesur trydanol syml
Cerrynt (Amperau) Dyma’r mesur o faint o electronau sy’n llifo trwy gylched bob eiliad. Mae’n debyg i faint o ddŵr sy’n llifo trwy bibell. Po fwyaf yw’r cerrynt, po fwyaf yw’r llif electronau. Defnyddir Amperau (A) i’w fesur.
Foltedd (Foltau) Mae foltedd yn disgrifio faint o egni sydd ar gael i wthio’r electronau trwy’r gylched. Fe allwn ei gymharu â’r gwasgedd mewn pibell ddŵr, mae’n gwneud i’r cerrynt symud. Defnyddir Foltau (V) i’w fesur.
Gwrthiant (Ohmau) Dyma’r mesur o faint mae’r deunydd yn gwrthwynebu’r llif trydan. Po fwyaf yw’r gwrthiant, anoddaf yw i’r cerrynt lifo. Mae hyn fel pe bai’r bibell ddŵr yn culhau neu’n llawn rhwystrau. Mae gwrthiant yn cael ei fesur mewn Ohms (Ω).