Maen Prawf 6.4

Y gofynion ar gyfer daearu cylchedau trydanol

 

Mae daearu trydanol yn elfen hanfodol o ddiogelwch mewn adeiladau ac mewn systemau plymio a gwresogi. Ei brif swyddogaeth yw atal sioc drydanol drwy sicrhau bod unrhyw ollyngiad trydanol yn gallu llifo’n ddiogel i’r ddaear yn hytrach na thrwy’r corff dynol. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ymdrin ag offer metel, fel boeleri, rheiddiaduron, silindrau dŵr poeth a phibellau copr, sydd i gyd yn gallu dargludo trydan. 

Mae sawl system ddaearu wahanol yn cael eu defnyddio yn y DU.  

Yn dilyn mae trosolwg syml o’r tair prif system sy’n gyffredin mewn adeiladau domestig a masnachol.