Boeler cyfun 

Mae’r system dŵr poeth hon yn boblogaidd ac yn gyffredin mewn anheddau domestig ledled Cymru. Dyma unedau bach, cryno sy’n arbed lle—perffaith ar gyfer tai lle mae lle’n brin. Mae’r boeleri hyn yn defnyddio nwy (nwy naturiol neu LPG) neu olew fel tanwydd i gynhesu dŵr ar alw. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r dŵr oer yn cael ei gynhesu wrth lifo drwy gyfnewidydd gwres plât i blât, gan ddarparu dŵr poeth ar unwaith heb yr angen i storio cyfaint mawr o ddŵr poeth. 

Er bod dyluniadau’n gallu amrywio ychydig yn dibynnu ar y math a’r gwneuthurwr, dyma yw’r egwyddor sylfaenol y mae’r mwyafrif o foeleri cyfun yn ei ddilyn. Yn ogystal â darparu dŵr poeth, mae gan foeleri cyfun y gallu i wasanaethu system wres canolog, gan eu gwneud yn unedau neu systemau amlbwrpas iawn.