Maen Prawf 2.1

Egwyddorion gweithio systemau dŵr poeth, lleoli, gosod, cysylltu a gweithredu cydrannau

 

Egwyddorion 

Mae deall egwyddorion gweithio systemau dŵr poeth yn hanfodol wrth gynllunio, gosod a chynnal systemau effeithiol a diogel. Yn y rhan hon, rhoddir sylw i wahanol fathau o silindrau, dyfeisiau a falfiau sy’n rhan o systemau dŵr poeth domestig, gan ystyried eu lleoliad, eu swyddogaeth a’r dulliau gosod priodol.