Ffaith ddiddorol 

Anod aberthol 

Gall silindrau dŵr poeth ddioddef o gorydiad galfanig – sef proses cemegol lle mae dau fath gwahanol o fetel yn cael eu cysylltu â’i gilydd o fewn system wlyb. Mae’r broses hon yn fwy tebygol o ddigwydd mewn ardaloedd sydd â dŵr meddal, gan fod natur y dŵr yn fwy asidig, ac felly’n creu amgylchedd electrolytig sy’n cynyddu’r perygl o gorydiad. 

Er mwyn lleihau’r risg hon, mae gweithgynhyrchwyr silindrau’n aml yn gosod anod magnesiwm – a elwir hefyd yn anod aberthol – yn rhan isaf y silindr. Mae’r anod aberthol yn gweithredu drwy ryddhau ïonau magnesiwm er mwyn diogelu’r haearn neu’r dur o’r gorydiad – mewn geiriau eraill, mae’n cael ei aberthu’n raddol yn lle’r silindr ei hun, gan roi ei hun fel ‘yr elfen wan’. 

Yn yr un modd, mae rhai gweithgynhyrchwyr boeleri hefyd yn gosod anod aberthol yn y cyfnewidydd gwres o fewn y boeler er mwyn amddiffyn y cydrannau mewnol rhag gorydiad dros amser. 

Mae’r defnydd o anod aberthol yn enghraifft o ddull cost-effeithiol o ymestyn oes cydrannau mewn systemau dŵr poeth, ac yn rhan o arferion da mewn cynnal a chadw.