Preimatig
Mae’r system preimatig (hunan-breimio) yn silindr anuniongyrchol, preimatig sydd â chyflenwad sengl. Mae’n gweithredu drwy wahanu’r dŵr cynradd a’r dŵr eilaidd gan swigen aer o fewn y cyfnewidydd gwres, gan atal y ddau fath o ddŵr rhag cymysgu.
Er bod hyn yn ddull o wahanu’r hylifau, nid yw’n ddull perffaith nac argymelledig erbyn heddiw. Mae’r risg o halogi rhwng categorïau hylif yn uwch gyda silindrau o’r math hwn, ac felly NI ddylid ychwanegu unrhyw atalydd i’r system wres canolog os yw’n defnyddio silindr primatig.
Nid yw silindrau primatig bellach yn cael eu hargymell ar gyfer gosodiadau newydd nac ar gyfer ailosod. Yn lle hynny, dylid defnyddio silindr dwy-sianel (double feed) sy’n cynnig gwell amddiffyniad rhag ôl-lifiad ac amgylchiadau halogi.