Stôr thermol  

Er nad yw’n system gyffredin iawn, mae’n cael ei defnyddio yng Nghymru. Mae’n gweithredu drwy ganiatáu i ddŵr oer o’r prif gyflenwad lifo trwy ddau gyfnewidydd gwres sydd wedi’u hamgáu o fewn cynhwysydd storio mawr sy’n cynnwys dŵr poeth o’r system gynradd. Gellir deall y systemau hyn fel systemau anuniongyrchol sydd yn gweithio’r ffordd arall rownd—yn hytrach na storio dŵr oer i’w gynhesu’n nes ymlaen fel dŵr eilaidd, storir gwres gan y system gynradd ac yna defnyddir y gwres hwn i gynhesu’r dŵr oer prif gyflenwad ar alw, ar unwaith, wrth i’r dŵr lifo drwy’r uned stôr thermol ac hebio i’r gyfnewidydd gwres.