System wedi’i hawyru / wedi’i bwydo gan seston ddŵr
Mae system awyredig yn cael ei hadnabod yn gyffredin fel system gwasgedd isel. Mae’r system hon yn cynnwys ffordd awyru agored, sef pibell awyru sydd wedi’i chysylltu â’r atmosffer sy’n sicrhau na all y dŵr fynd y tu hwnt i 100°C. Prif ddiben y bibell awyru yw gweithredu fel dull diogelwch drwy ganiatáu i unrhyw bwysedd neu dymheredd gormodol ddianc yn ddiogel. Mae’r math hwn o system yn defnyddio seston cyflenwi (neu seston dŵr oer) i fwydo’r silindr storio dŵr poeth, ac felly mae’n dibynnu ar ddisgyrchiant i gynhyrchu gwasgedd ar gyfer y cyflenwad. Gall systemau awyredig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol
- uniongyrchol: lle mae’r dŵr yn cael ei gynhesu’n uniongyrchol yn y silindr
- anuniongyrchol: lle mae coil gwresogi’n trosglwyddo gwres o’r system wresogi i’r dŵr poeth.
Gall y systemau hyn amrywio yn eu dull o osod ac maent ar gael mewn amrywiaeth o ddyluniadau i weddu i anghenion yr eiddo. Maent yn parhau’n boblogaidd mewn sawl math o adeiladau domestig oherwydd eu symlrwydd a’r defnydd o egwyddorion mecanyddol yn hytrach na’r angen am bwmpio mecanyddol.