Systemau cyfun awyredig ‘Fortic’

Gelwir y silindr ‘fortic’ yn uned gyfun oherwydd bod ganddo’i seston bwydo dŵr oer ei hun wedi’i atodi ar ben y silindr storio dŵr poeth. Mae’r silindr hwn hefyd yn cynnwys pibell bwydo oer a phibell fentio fel rhan o’i ddyluniad. Fe’i defnyddir fel arfer mewn adeiladau lle nad oes llawer o le, gan ei fod yn cyfuno storfa dŵr poeth a’r seston bwydo mewn un uned gyfun. 

Fodd bynnag, mae’r system hon yn anghyffredin ac yn amhoblogaidd ar y cyfan, gan fod ei wasgedd gweithredu’n isel iawn o’i chymharu â systemau eraill.