Trosolwg
Byddwn yn trafod y gwahaniaethau rhwng silindrau wedi’u hawyru ac heb eu hawyru, a’r mathau arbenigol megis silindrau preimatig, coil deuol, silindrau cyfun ac unedau stôr thermol. Bydd pob system yn cael ei ddisgrifio’n glir ochr yn ochr â diagramau wedi’u labelu, gan ddangos y llwybr llif dŵr poeth a’r cydrannau perthnasol.
Caiff egwyddorion gosod tapiau, allfeydd a falfiau hefyd eu trafod, gan gynnwys y dulliau o gysylltu tapiau piler, tapiau cymysgu, falfiau atal, falfiau gât llawn, falfiau cymysgu thermostatig a falfiau draenio. Bydd y pwyslais ar osod cydrannau yn unol â gofynion y system a’r math o bwysedd dŵr, ynghyd â chyfeirio at y safonau a’r rheoliadau perthnasol.
Byddwn yn egluro hefyd lleoli’r cydrannau hyn yn y system – er enghraifft, gosod falfiau mewn lleoliadau hygyrch ar gyfer gwaith cynnal a chadw, a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Dŵr a’r Rheoliadau Adeiladu.
Gan ddefnyddio diagramau hawdd eu darllen a disgrifiadau clir, bydd modd gweld sut mae cydrannau’n cysylltu, sut maent yn gweithredu, ac ym mha fathau o systemau y cânt eu defnyddio.