Yn ogystal, dyma rai awgrymiadau allweddol i’w hystyried: 

  • Cadwch bibellau yn daclus ac yn drefnus – mae gosodiad taclus nid yn unig yn edrych yn well ond hefyd yn hwyluso cynnal a chadw yn y dyfodol. 
  • Defnyddio plygiadau peiriannol yn hytrach na ffitinau pan fo’n bosibl – mae hyn yn helpu i gynnal cyfraddau llif dŵr yn y system. 
  • Dilyn y pellteroedd clampio/clipio argymelledig ar gyfer copr a phlastig i atal dirgryniadau a sicrhau sefydlogrwydd y bibellwaith. 
  • Sicrhau bod bibellau wedi’u gosod yn unol â’r Rheoliadau Dŵr os cânt eu gosod mewn lloriau neu waliau. 
  • Diogelu dŵr oer rhag unrhyw gynhesu gormodol – mae hyn yn bwysig er mwyn atal twf Legionella, felly dylid ystyried hyn wrth osod pibellau dŵr poeth yn agos at bibellau dŵr oer. 
  • Diogelu systemau dŵr poeth drwy osod y systemau yn cynnwys yr holl ddyfeisiadau, cydrannau neu ddilyn dyluniadau sy’n sicrhau diogelwch y sawl sy’n defnyddio’r system.
  • Mae systemau dŵr poeth yn gymhleth, efallai mai gosod falf blendio fydd angen, efallai bydd angen pibell awyru, mewn rhai achosion bydd angen falf rhyddhad pwysau neu cyfuniad o nifer o elfennau gwahanol.

 

Cofiwch bod pob system yn unigryw mewn un ffordd neu’r llall ac bod angen dealltwriaeth ddofn ar sut i sicrhau diogelwch cyn i chi osod system ddŵr poeth 

Mae sicrhau bod systemau dŵr poeth yn cael eu gosod yn unol â’r rheoliadau a’r safonau perthnasol yn hanfodol i sicrhau system ddŵr effeithlon, ddiogel ac o ansawdd uchel.