Maen Prawf 3.4
Gosod systemau dŵr poeth
Mae gosod systemau dŵr poeth mewn sefyllfaoedd domestig yn gallu amrywio’n sylweddol o un swydd i’r llall, gyda nifer o gydrannau gwahanol i’w gosod a phwysigrwydd ystyried addasrwydd, ymarferoldeb a diogelwch y system neu’r gydran sy’n cael ei gosod. Wrth osod systemau dŵr poeth yn benodol, mae’n rhaid blaenoriaethu ystyried diogelwch pan yn mynd ati i ddylunio a gosod system ddŵr poeth.
Mae gosod silindr (awyru agored) neu silindr (di-fent) neu unrhyw system o storio dŵr poeth yn gallu bod yn angheuol heb y rhagofalon cywir yn eu lle. Mae dŵr poeth heb ei storio megis boeler cyfun neu gawod unionsyth trydan i nodi rhai, hefyd yn gallu bod yn beryg ac yn gallu achosi niwed i fodau dynol heb y rhagofalon cywir.
Er mwyn sicrhau bod gosodiadau wedi eu gwneud yn gywir, bydd angen dilyn y Rheoliadau Adeiladu; Dogfen Gymeradwy Rhan G, G3. Hefyd, bydd angen dilyn canllawiau a chyfarwyddiadau y gwneuthurwyr ac unrhyw ddogfen gyfreithiol perthnasol arall sy’n ymwneud â’r sefyllfa/cyd-destun.
Mae dŵr poeth yn cyflenwi’r mwyafrif o osodiadau mewn eiddo domestig, gan gynnwys tapiau mewn ystafell ymolchi, sinciau cegin, cawodydd, ymhlith llawer o osodiadau eraill. Oherwydd hyn, mae dulliau, technegau ac ystyriaethau gosod yn amrywio yn dibynnu ar y cyd-destun. Mewn llawer o achosion, ni fydd dwy swydd byth yr un fath! Mae hyn yn golygu bod y dull gosod yn dibynnu ar yr offeryn/cynnyrch, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, ffabrig yr adeilad, estheteg, ansawdd a llawer o ffactorau eraill.