Systemau heb bibellau plastig

Ar gyfer systemau dŵr poeth heb bibellau plastig – hynny yw, systemau gyda deunyddiau megis copr neu ddur di-staen – nodir yn G12.2 y dylid: 

  • Gwneud y prawf trwy bwmpio’r system i’r pwysedd prawf ac yna ei adael heb bwmpio pellach.
  • Ni ddylai’r pwysedd ostwng dros gyfnod o awr, a ni ddylid gweld unrhyw ollyngiadau gweledol. 

 

Mae’r Argymhellion R12.1 a R12.2 yn atgyfnerthu’r gofynion hyn gan nodi y dylid cynnal prawf terfynol ar ôl cwblhau’r gosodiad ac unrhyw waith adeiladu cysylltiedig. Mewn systemau lle mae pibellau wedi’u claddu neu i fod i’w claddu, fe’i hargymhellir yn gryf i’w profi ar sail dros dro cyn gorchuddio.