Maen Prawf 4.1

Archwiliad gweledol o system dŵr poeth i gadarnhau ei bod yn barod i gael ei phrofi o ran ei chadernid

 

Cyn cynnal prawf gwasgedd ar unrhyw system blymio neu wresogi, mae’n hanfodol cynnal archwiliad gweledol trylwyr i sicrhau bod y gwaith gosod yn gyflawn ac yn ddiogel. Mae’r cam yma yn berthnasol i systemau dŵr oer, dŵr poeth a gwres canolog.  Dylai’r archwiliad gynnwys y canlynol:

  • Chwilio am unrhyw bennau agored ar bibellau neu ffitiadau, gan sicrhau bod pob rhan o’r system wedi’i selio’n briodol.
  • Gwirio cymalau (joints) a ffitiadau: dylai pob cymal sodr (soldered), cywasgedig (compression), gwthio (push-fit) a gwasgedig (press-fit) gael eu harchwilio i sicrhau eu bod wedi’u gosod yn gywir ac yn ddiogel, heb arwyddion o fethiant neu wendid.
  • Gwirio clipiau pibell: rhaid cadarnhau bod clipiau wedi’u gosod ar bellteroedd priodol i ddarparu cefnogaeth ddigonol, gan atal symudiad neu dirgryniad.  
  • Ar gyfer systemau dŵr poeth a gwres canolog, dylai sylw penodol gael ei roi i elfennau diogelwch megis falfiau gorlif a falfiau diogelwch tymheredd a gwasgedd, gan sicrhau eu bod wedi’u gosod a’u sefydlu’n gywir cyn dechrau profion.

 

Mae’r archwiliad hwn yn gam hollbwysig cyn cynnal prawf i wirio bod y system yn ddŵrglos neu brawf cadernid. Mae’n sicrhau bod y system wedi’i gosod yn unol â gofynion Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999, safonau BS EN 806 a BS 8558, ac yn bodloni safonau priodol y Rheoliadau Adeiladu cyn unrhyw weithdrefn brofi ffurfiol.